Steeling Ourselves:
Reflections from Port
Talbot After the
Blast Furnace Closure

Photography by Jon Pountney

The Steeling Ourselves exhibition combines striking photography with deeply personal stories from local residents, to capture a community navigating one of the most significant industrial transitions in Welsh history. 

Intimate portraits, reflections and shared memories, give a unique insight into life in Port Talbot after the closure of the last blast furnace. The exhibition is part of a wider effort to preserve and centre local voices and encourage dialogue about the social impacts of industrial change, regeneration and community experience of major economic transitions. 

Jon Pountney, whose work is widely recognised for its exploration of memory, community, and social history, offers an evocative portrait of a town at a pivotal moment. His photographs document not only a changing landscape, but also the people whose lives and identities have been intertwined with Port Talbot's steelmaking legacy for generations.

Steeling Ourselves forms part of the ground-breaking After the End research project, which explores how communities experience endings and transitions, examining themes of memory, resilience, identity, power and resistance. The project is led by Professor Patricia Kingori (University of Oxford) and the exhibition has included expertise from Professor Ruth Ogden and Anna Powell (Liverpool John Moores University) and Professor Laura Salisbury (University of Exeter).

Steeling Ourselves is a celebration of Port Talbot's people—their strength, creativity and determination to shape the future while preserving the memories and experiences that matter. 

This work was supported by the After the End research project (funded by Wellcome Trust 225238/Z/22/Z, Liverpool John Moores University, and the University of Exeter).

Arddangosfa newydd
yn rhoi llais i gymuned
Port Talbot ar ôl cau'r
ffwrnais chwyth

ffotograffiaeth gan Jon Pountney

Dwy flynedd ar ôl i'r ffwrnais chwyth olaf gau, mae arddangosfa newydd a phwerus ar fin agor ym Mhort Talbot, gan daflu goleuni ar brofiadau, atgofion a gobeithion y gymuned ar gyfer y dyfodol.

Mae Steeling Ourselves: Reflections from Port Talbot After the Blast Furnace Closure, a grëwyd gan y ffotograffydd o fri, Jon Pountney, ochr yn ochr ag ymchwilwyr blaenllaw o brifysgolion, yn cael ei lansio ar 31 Gorffennaf 2026 rhwng 6pm ac 8pm yn The Plaza, Port Talbot. Bydd wedyn ar agor i'r cyhoedd tan 7 Awst 2026.

Gan gyfuno ffotograffiaeth drawiadol â straeon personol iawn trigolion lleol, mae'r arddangosfa yn portreadu cymuned sy'n wynebu un o'r newidiadau diwydiannol mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru. Drwy bortreadau personol, myfyrdodau ac atgofion, bydd ymwelwyr yn cael cipolwg unigryw ar fywyd ym Mhort Talbot ar ôl cau'r ffwrnais chwyth.

Mae'r arddangosfa'n rhan o'r prosiect ymchwil arloesol, After the End, sy’n edrych ar sut mae cymunedau'n byw drwy derfyniadau a chyfnodau o newid, gan ystyried themâu megis cof a chofio, gwydnwch, hunaniaeth, pŵer a gwrthwynebiad.

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan yr Athro Patricia Kingori (The Ethox Centre, Oxford Population Health) ochr yn ochr â'r Athro Ruth Ogden (Prifysgol John Moores Lerpwl) a'r Athro Laura Salisbury (Prifysgol Caerwysg).

Yn fwy nag arddangosfa yn unig, mae Steeling Ourselves yn ddathliad o bobl Port Talbot: eu cryfder, eu creadigrwydd a'u penderfyniad i lunio'r dyfodol wrth ddiogelu'r atgofion a'r profiadau sydd o bwys iddyn nhw. Mae'r casgliad yn creu gofod lle mae celf, ymchwil a phrofiadau'r gymuned yn dod ynghyd, gan annog sgyrsiau am berthyn, treftadaeth a'r hyn sydd i ddod.

Yn adnabyddus am ei waith ym meysydd cof a chofio, cymuned, a hanes cymdeithasol, mae Jon Pountney yn cynnig portread teimladwy o dref ar adeg hollbwysig yn ei hanes. Mae ei ffotograffau nid yn unig yn dal tirwedd sy'n newid, ond hefyd yn dal y bobl y mae eu bywydau a'u hunaniaethau wedi bod ynghlwm wrth ddiwydiant dur Port Talbot ers cenedlaethau.

Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd yr arddangosfa'n sbarduno trafodaethau ehangach am effeithiau cymdeithasol o ran newid diwydiannol, ac yn sicrhau bod lleisiau lleol yn chwarae rhan ganolog mewn sgyrsiau am adfywio a dyfodol cymunedau sy'n wynebu newidiadau economaidd mawr.

Ariannwyd yr arddangosfa gan brosiect After the End (Wellcome Trust 225238/Z/22/Z), Prifysgol John Moores Lerpwl, a Phrifysgol Caerwysg. Mae'r arddangosfa'n rhan o ymdrech ehangach i ddiogelu gwybodaeth leol a chreu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau ystyrlon rhwng trigolion, ymchwilwyr, artistiaid a llunwyr polisi..